Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022

 

Pwynt craffu technegol 1:

 

Ymateb

 

Mae erthygl 2(3A) o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992, a fewnosodwyd gan Reoliadau’r Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Diwygio) (Lloegr) 2022, yn ymwneud ag eiddo nad yw wedi ei feddiannu. Fel y nodir yn y nodiadau esboniadol, bwriad y polisi yw darparu bod esemptiadau sy'n ymwneud ag eiddo a feddiennir yn rhychwantu Cymru. Roedd yn angenrheidiol mewnosod y geiriau “in England” yn erthygl 2(3A) er mwyn sicrhau ei bod yn glir nad yw’r erthygl hon sy’n ymwneud ag eiddo nad yw wedi ei feddiannu yn gymwys i Gymru.

 

Pwynt craffu ar rinweddau 1:

 

Ymateb

 

Dyma’r dull sydd wedi ei ddefnyddio yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd. Mae’r meini prawf ar gyfer mynediad o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin yn wahanol i’r rheini ar gyfer y Cynllun Cartrefi i Wcráin. O dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, mae disgwyliad y bydd pobl o Wcráin yn ymuno ag aelodau o’r teulu yn y DU ac y bydd eu perthnasau’n gallu darparu llety. 

 

Bwriad y Rheoliadau hyn yw annog pobl i fanteisio ar y cynllun Cartrefi i Wcráin drwy sicrhau nad yw pobl sy’n darparu llety i berson neu deulu o Wcráin yn cael eu cymell i beidio â gwneud hynny oherwydd y gallent golli unrhyw ddisgownt neu esemptiad y mae ganddynt hawl iddo ar hyn o bryd.

 

Pwynt craffu ar rinweddau 2:

 

Ymateb

 

Amryfusedd oedd hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellir cywiro hyn drwy gyfrwng slip cywiro.